a person's hand on someone else shoulder

Cyswllt Brys

Os ydych mewn argyfwng cysylltwch:

NHS 111 Pwyso 2 - 111

Samaritans - 116 123

CALL Helpline - 0800 132 737

Papyrus Hopeline - 0300 102 2470

Croeso i Felin Fach


Amdanom Ni

Mae Canolfan Felin Fach, Pwllheli yn Ganolfan adnoddau sy’n cefnogi oedolion sydd mewn creisis drwy wrando, rhannu gwybodaeth a helpu’r unigolyn ddarganfod ffyrdd i ddelio gyda a datrys problemau bywyd yn sympathetig a di-duedd. 

Rydym yn Hwb Cymorth Cymunedol, sy’n siop-un-stop am wybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol sydd ar gael i’n holl drigolion, ac yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Bwyd (naill ai banc bwyd a/neu brydau bwyd wedi'u coginio/dosbarthiadau)
  • Cymorth gyda llety/tenantiaethau
  • Cyngor ar arian/rheoli dyled/budd-daliadau
  • Cymorth gyda thanwydd/gwres
  • Cymorth i deuluoedd
  • Cymorth iechyd meddwl drwy ein gwasanaeth ICAN
  • Cymorth gyda chamdriniaeth yn y cartref  
  • Cymorth os ydych yn camddefnyddio sylweddau
  • Cynhwysiant digidol
  • Mynd i mewn i fyd gwaith/cynnal cyflogaeth
  • Rhagnodi cymdeithasol

Does dim angen apwyntiad arnoch, ffoniwch ni ar 01758 701611, ebostiwch sandra@felin-fach.co.uk neu galwch i mewn am sgwrs, am wybodaeth, neu i drafod sut gallwn eich helpu.

Amdanom

Adeilad mawr lliw hufen yn dangos yr olygfa allanol o adeilad Felin Fach

ardal eistedd fawr gyda chadeiriau glas wedi'u haddurno â gwaith celf

Gwasanaethau Arbenigol

Mae Canolfan Felin Fach yn rhedeg dau wasanaeth arbenigol - ICAN ac Enfys Alice.

logo FEDRA'i i CAN

Fel Hwb ICAN rydym yn cefnogi unigolion bregus, mewn creisis, neu sy’n wynebu heriau bywyd sy’n cael effaith negyddol ar eu iechyd emosiynol a lles, gallwn hefyd helpu os ydych yn gofalu neu’r pryderu am riwin sy’n mynd drwy amser caled oherwydd sefyllfa bywyd, problemau iechyd corfforol, problemau cymdeithasol fel dyledion, tenantiaeth neu gamddefnyddio sylweddau. Cliciwch uchod am fwy o wybodaeth ar brosiect ICAN ar draws Gogledd Cymru, neu cysylltwch gyda Debbie, ein Cydlynydd ICAN, drwy ebostio debbie@felin-fach.co.uk i drefnu apwyntiad am sgwrs.

logo Enfys Alice

Mae gwasanaeth Enfys Alice yn cefnogi unigolion sydd wedi colli anwylun drwy hunanladdiad, ac yn wasanaeth sydd yn cefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru gyfan. Am fwy o wybodaeth cliciwch y linc uchod, neu ebostiwch enfysalice@felin-fach.co.uk

Gweithgareddau'r Mis

Dydd Gwener

 

Chelf a Chreft

Nacro 3yp-5yp

Samaritans 10yb-12yp

Dydd Iau

Banc Barclays 9:30yb-4yp

Grwp Canser Pwllheli ac Phen Llyn (yr ail, a dydd Iau Olaf y mis)

Cefnogaeth gyda PIP - (bwcio yn unig - anfonwch e-bost at ceira@felin-fach.co.uk i archebu apwyntiad)

Dydd Mercher

Chelf a Chreft 

Sesiynau Coginio (Mwy o wybodaeth ar eu gwefan) https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/cookery-for-beginners

Banc Barclays 9:30yb-4yp

Grwp Garddio 2yp-4yp

Dydd Mawrth

Banc Barclays 9:30yb-4yp

Tim Awtistiaeth Gogledd Cymru 

Gwnio - 1-4yp

Grwp Adferiad 10yb - 12yb 

Cefnogaeth gyda PIP - (bwcio yn unig - anfonwch e-bost at ceira@felin-fach.co.uk i archebu apwyntiad)

AWDIOLEG - Clinig Cymorth Clyw - 3YDD Dydd Mawrth o pob mis 10yb-12yp

Dydd Llun

Sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar / Myfyrdod (Amser Term yn unig)

Sesiynau Ysgrifennu Creadigol (Amser Term yn unig)

Banc Barclays 9:30yb-4pm

Banc Lloyds (Yma DDWY waith y mis)

 

Gweithgareddau i Gyd

Arianwyr