Hafan > Gwirfoddoli
Gwirfoddoli
Mae ’na gymaint o gyfleoedd Gwirfoddoli yn Felin Fach, rydym wedi bod yn cefnogi a gwerthfawrogi gwirfoddolwyr ers dros 30 mlynedd bellach.
Os hoffech wneud cais i wirfoddoli yn Felin Fach, cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda, neu os hoffech gopi papur o’r ffurflen ffoniwch ni ar 01758 701611 am becyn gwybodaeth, neu croeso i chi alw i mewn, does dim angen apwyntiad arnoch!
Proses Recrewtio Gwirfoddolwyr
- Anfon pecyn gwybodaeth a ffurflen gais allan (drwy ebost neu gopi calad)
- Gwahodd yr unigolyn i’r Ganolfan am gyfweliad anffurfiol
- Trafod y cais yn y cyfarfod staff nesaf
- Os yn addas gwahodd yr unigolyn i gyflwyno dogfennau ar gyfer gwyriad DBS
- Dilyn canllawiau trefn DBS Cyngor Gwynedd gan gwblhau’r ffurflen a chyflwyno tystiolaeth ayyb
- Os yw’r tystysgrif DBS yn glir mynd i cam 8
- Pan ddaw’r tystysgrif DBS yn ol cael trafodaeth fel staff os nad yw’r gwyriad yn glir
- Trafod a phenderfynu dyletswyddau’r gwirfoddolwr gyda’r gwirfoddolwr a threfnu rota
- Rhannu gwaith papur efo’r gwirfoddolwr
- Trefnu proses ‘induction’ a threfnu hyfforddiant priodol
- Trefnu dyddiad cychwyn
Dogfennau Pwysig
(Cyfieithiad i ddilyn)
Ffurflen Gais
Nodwch pa ddyddiau ac amser fyddwch chi ar gael os gwelwch yn dda
Diogelu
Bydd eich rol fel Gwirfoddolwr yn cynnwys treulio amser gydag oedolion bregus, ac yn ddarostyngedig i ofynion Diogelu, felly bydd angen gwiriad DBS boddhaol ynghyd ag enw a chyfeiriad dau Ganolwr sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynnedd (dim yn aelod o'ch teulu)
Canolwr 1
Canolwr 2
Sut y byddwn yn defnyddio Data Personol amdanoch chi
Rydym yn cadw'ch manylion personol ar gyfer ein cofnodion ein hunain yn unig. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion personol ag unrhyw Drydydd Parti arall heb ofyn am eich caniatâd ymlaen llaw - oni bai bod gennym reswm dilys dros wneud hynny