Help i Rywun Arall
Ydych chi'n poeni am aelod o’r teulu / ffrind?
Os ydych yn poeni am aelod o’r teulu, ffrind, cymydog, neu rywun sy’n rhan o’r un grwp cymdeithasol neu glwb a chi, mae’n bosib i chi gael gwybodaeth a chyngor drwy gysylltu efo Debbie, ein Cysylltydd ICAN am sgwrs gyfrinachol. Mi allwn eich helpu i chwilio am grwp neu fudiad allai eich helpu, neu chwilio am wybodaeth, neu cynnig clust i wrando dros baned. Am sgwrs gyfrinachol neu wybodaeth ffoniwch 01758 701611 neu ebostiwch debbie@felin-fach.co.uk, neu croeso i chi alw i mewn heb apwyntiad.
Gweithio efo / Cefnogi rhywun sydd angen help
Os ydych yn pryderu am gleient neu ddefnyddiwr eich gwasanaeth ac eisiau gwneud arallgyfeiriad i mewn i’n gwasanaeth ICAN gallwch wneud hynny drwy lenwi ein ffurflen arallgyfeirio, a’i ebostio i referrals@felin-fach.co.uk, ond rhaid cael caniatad gan yr unigolyn cyn cwblhau’r cyfeiriad. Os hoffech sgwrs i drafod arallgyfeirio i ICAN yn gyffredinol cysylltwch gyda Debbie, ein Cysylltydd ICAN drwy ffonio 01758 701611 neu ebostio debbie@felin-fach.co.uk. Os hoffech dderbyn rhestr o ddigwyddiadau’r Ganolfan cysylltwch i roi enw’ch mudiad ar ein rhestr bostio drwy ebostio sandra@felin-fach.co.uk.