Hafan > iCAN
iCAN
Mae Fedra’ i yn cynnig mynediad hawdd i gefnogaeth ar amryw faterion sydd, o bosib, yn eich poeni neu'n effeithio ar eich lles meddyliol megis….
- Tor-perthynas
- Trafferthion cyflogaeth
- Gorbryder cymdeithasol
- Galar
- Pryderon am arian
- Unigrwydd
Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud?
Darperir cymorth Fedra’ i drwy ystod o wasanaethau y gellir cael hyd iddyn nhw’n hawdd ar draws Gogledd Cymru. Does dim angen cyfeiriad gan feddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys:
Felin Fach manage two specialist programmes – ICAN and Enfys Alice.
Fel Hwb ICAN rydym yn cefnogi unigolion bregus, mewn creisis, neu sy’n wynebu heriau bywyd sy’n cael effaith negyddol ar eu iechyd emosiynol a lles, gallwn hefyd helpu os ydych yn gofalu neu’r pryderu am riwin sy’n mynd drwy amser caled oherwydd sefyllfa bywyd, problemau iechyd corfforol, problemau cymdeithasol fel dyledion, tenantiaeth neu gamddefnyddio sylweddau. Cliciwch uchod am fwy o wybodaeth ar brosiect ICAN ar draws Gogledd Cymru, neu cysylltwch gyda Debbie, ein Cydlynydd ICAN, drwy ebostio debbie@felin-fach.co.uk i drefnu apwyntiad am sgwrs.
Enfys Alice
Mae gwasanaeth Enfys Alice yn cefnogi unigolion sydd wedi colli anwylun drwy hunanladdiad, ac yn wasanaeth sydd yn cefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru gyfan. Am fwy o wybodaeth cliciwch y linc uchod, neu ebostiwch enfysalice@felin-fach.co.uk